Canlyniadau Chwilio - Murphy, Paul
Paul Murphy
Gwleidydd Cymreig yw Paul Peter Murphy (ganwyd 25 Tachwedd 1948). Bu'n cynrychioli etholaeth Torfaen dros y Blaid Lafur o 1987 i 2015 ac wedi dal swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru (o 24 Ionawr 2008 hyd 5 Mehefin 2009). Bu'n weinidog gwladol yn Swyddfa Gogledd Iwerddon o 1997 tan 1999 ac Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon o 24 Hydref 2002 tan 5 Mai 2005. Mae wedi dal swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru unwaith o'r blaen, am dair blynedd a hanner o 28 Gorffennaf 1999 tan 23 Hydref 2002. Mae'n aelod o Gyngor Polisi Cyfeillion Llafur Israel.Cafodd ei addysg yn West Monmouth School ym Mhont-y-pŵl ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen. Cyn dod yn aelod seneddol roedd yn ddarlithydd mewn hanes yn Ngholeg Gwent. Darparwyd gan Wikipedia