Randy Newman
Canwr,
cyfansoddwr caneuon, a
phianydd Americanaidd yw
Randall Stuart "Randy" Newman (ganwyd
28 Tachwedd 1943). Cafodd ei eni yn
Los Angeles a'i fagu yn
New Orleans ac yna Los Angeles, ac yn y ddinas honno astudiodd cyfansoddi cerddoriaeth ym
Mhrifysgol Califfornia. Mae nifer o'i ganeuon o natur ddigrif, eironig, a dychanol. Ymhlith ei ganeuon enwog mae "Short People", "I Love L.A.", "Mama Told Me Not to Come", "You Can Leave Your Hat On", ac "I Think It's Going to Rain Today". Cyfansoddodd Newman y traciau sain ar gyfer y ffilmiau ''
Ragtime'' (1981), ''
The Natural'' (1984), ''
Toy Story'' (1995), ''
A Bug's Life'' (1998), ''
Toy Story 2'' (1999), a ''
Monsters, Inc.'' (2001). Cafodd Newman ei ynydu i'r
Rock and Roll Hall of Fame yn 2013.
Darparwyd gan Wikipedia
-
1