Canlyniadau Chwilio - Tillich, Paul

Paul Tillich

Diwinydd ac athronydd Cristnogol Almaenig-Americanaidd oedd Paul Johannes Tillich (20 Awst 188622 Hydref 1965).

Ganed ef yn Starzeddel, Prwsia, ac astudiodd mewn sawl prifysgol yn yr Almaen gan ennill graddau mewn athroniaeth a diwinyddiaeth. . Fe'i ordeiniwyd yn weinidog Lutheraidd, a gwasanaethodd yn gaplan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Treuliodd gychwyn ei yrfa academaidd ym mhrifysgolion Berlin a Marburg cyn cael ei benodi'n athro diwinyddiaeth yn Dresden a Leipzig ac yna'n athro athroniaeth a chymdeithaseg yn Frankfurt. Aeth yn alltud o'r Almaen wedi i'r Natsïaid esgyn i rym ym 1933, ac ymsefydlodd yn Unol Daleithiau America. Addysgodd yng Ngholeg Diwinyddol yr Undeb yn Efrog Newydd am 22 mlynedd cyn symud i Harvard ym 1955. Treuliodd dair mlynedd olaf ei oes yn athro diwinyddiaeth ym Mhrifysgol Chicago.

Dylanwadwyd ar Tillich yn gryf gan ei brofiadau ar Ffrynt y Gorllewin, ac aeth ati i herio rhagdybiaethau ac ymhoniadau cymdeithasol a chrefyddol ei wareiddiad, ac archwilio diwylliant cyfoes y Gorllewin trwy ddrychau diwinyddiaeth ac athroniaeth. Yn ystod ei yrfa yn yr Almaen, amlinellai ei "ddiwnyddiaeth diwylliant", gan ymdrin â'r ffydd hunanamlwg, anymwybodol sydd ymhlyg mewn systemau meddwl a strwythurau cymdeithasol sydd yn seciwlar i bob golwg. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 5 canlyniadau o 5
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Amor, poder y justicia : análisis ontológicos y aplicaciones éticas gan Tillich, Paul

    Cyhoeddwyd 1954
    Llyfr
  2. 2

    Teología de la Cultura y otros Ensayos gan Tillich, Paul

    Cyhoeddwyd 1974
    Llyfr
  3. 3

    Teología sistemática gan Tillich, Paul

    Cyhoeddwyd 2001
    Llyfr
  4. 4

    Teología sistemática ; la vida y el espíritu. La historia y el reino de Dios gan Tillich, Paul

    Cyhoeddwyd 1984
    Llyfr
  5. 5

    La era protestante gan Tillich, Paul

    Cyhoeddwyd 1965
    Llyfr