Canlyniadau Chwilio - Williams, Patricia
Patricia Williams
| dateformat = dmy}}Darlithydd, hanesydd ac awdur o Wrecsam yw Patricia Williams.
Cafodd ei magu ar aelwyd Saesneg ond cafodd y fraint o fynd i Ysgol Gynradd Gwynfryn lle roedd y prifatho dawnus E. D. Parry yn dysgu Cymraeg fel ail iaith, pan nad oedd hi'n orfodol nac yn ffasiynol i wneud hynny. Bu'n ffodus i gael hyfforddiant pellach yn y Gymraeg yn Ysgol Ramadeg y Merched Grove Park Wrecsam gan yr athrawes ysbrydoledig, Miss Menai Williams, a gododd awydd ynddi i barhua gydag Astudiaethau Cymraeg a Chelteg.
Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i hoes yn Lerpwl, gan ddysgu Lladin yn Ysgol Merched Merchant Taylors yn ei dyddiau cynnar yn y ddinas, cyn ei phenodi'n ddarlithydd yn Adran Geltaidd Prifysgol Lerpwl ac wedyn Prifysgol Manceinion. Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol yw ei phrif ddiddordeb ymchwil, yn enwedig cyfieithiadau o'r Lladin. Mae wedi cyhoedd nifer o cyfrolau gan cynnwys ''Historical Texts from Medieval Wales'' yn 2012 ac ''A oes Heddwch'' yn 2019. Darparwyd gan Wikipedia